Five-year-old Archie Fielding will be able to buy lots of new books after completing a national reading challenge.
He was one of more than 450 children who took part in this year’s ‘Wild World Heroes, Summer Reading Challenge 2021 run by Torfaen Libraries.
Archie was given a £100 gift voucher for Smyths Toy Store after his
name was chosen at random from a list of 216 children who completed the challenge.
The Summer Reading Challenge is a national competition run by The Reading Agency and delivered in partnership with libraries. The challenge encourages families to visit their local library during the Summer holidays and asks 4-11 year olds to borrow and read any six library books during this time.
Archie’s mum, Nicole Fielding, 27, said: “We really enjoy visiting our local library, and we really enjoyed the Summer Reading Challenge.
“Archie was delighted to find out he had won the voucher and can’t wait to spend it.”
Archie, who is a pupil at Llantarnam Community Primary School, was presented with the voucher, together with a certificate and medal, at a special school assembly.
Councillor Joanne Gauden, Executive Member for Skills, Economy and Regeneration, said: “Reading is such an important life skill, and if we can encourage young people to enjoy reading when they are young, hopefully they will continue to enjoy reading as they get older.
“I would like to congratulate everyone who took part in the challenge, especially Archie, who was lucky enough to be crowned the winner this year.”
Find out more about the library service in Torfaen and give them a follow on Facebook and Twitter
Photo from left to right.
Matthew Geary, Torfaen Libraries
Archie Fielding
Mum, Nicole Fielding
Bydd Archie Fielding, pump oed, yn gallu prynu llawer o lyfrau newydd ar ôl cwblhau sialens ddarllen genedlaethol.
Roedd Archie yn un o fwy na 450 o blant a gymerodd ran yn Sialens Ddarllen yr Haf 2021, Arwyr y Byd Gwyllt a gynhaliwyd gan Lyfrgelloedd Torfaen.
Cafodd Archie daleb o £100 yn anrheg i'w wario yn Smyths Toy Store ar ôl i’w enw gael ei ddewis ar hap o restr o 216 o blant a gwblhaodd y sialens.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gystadleuaeth genedlaethol sy'n cael ei rhedeg gan The Reading Agency ac a gyflwynir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd. Mae'r sialens yn annog teuluoedd i ymweld â'u llyfrgell leol yn ystod gwyliau'r Haf ac yn gofyn i blant 4-11 oed fenthyg a darllen unrhyw chwe llyfr llyfrgell yn ystod y cyfnod hwn
Dywedodd mam Archie, Nicole Fielding, 27: “Rydyn ni wir yn mwynhau ymweld â’n llyfrgell leol, ac fe wnaethon ni fwynhau Sialens Ddarllen yr Haf yn fawr.
“Roedd Archie yn falch iawn o ddarganfod ei fod wedi ennill y daleb ac mae'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y cyfle i'w wario.”
Cyflwynwyd y daleb i Archie, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam, ynghyd â thystysgrif a medal, a hynny yn ystod gwasanaeth arbennig yn yr ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Sgiliau, Economi ac Adfywio: “Mae darllen yn un o'r sgiliau bywyd hynod bwysig, ac os gallwn annog pobl ifanc i fwynhau darllen pan fyddant yn ifanc, gobeithio y byddant yn parhau i fwynhau darllen wrth iddynt fynd yn hŷn.
“Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran yn y sialens, yn enwedig Archie, a oedd yn ddigon ffodus i gipio'r goron eleni.”
Dysgwch mwy am y gwasanaeth llyfrgelloedd yn Nhorfaen ac ewch ati i’w dilyn ar Facebook a Twitter
No comments:
Post a Comment